2015 Rhif 1591 (Cy. 191) (C. 92)

addysg, cymru

Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 6 Awst 2015 ddarpariaethau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (“y Ddeddf”) a restrir yn erthygl 2 yn unol â’r hyn y darperir ar ei gyfer yn yr erthygl honno.

Mae adran 2(1) o’r Ddeddf yn sefydlu Cymwysterau Cymru fel corff corfforaethol ac mae adran 2(2) yn cyflwyno Atodlen 1. Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach sy’n ymwneud â sefydlu Cymwysterau Cymru, gan gynnwys ynghylch ei aelodaeth. Mae paragraff 37 o Atodlen 1 yn diwygio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 er mwyn ychwanegu Cymwysterau Cymru at y rhestr o gyrff a swyddi cyhoeddus yn Rhan 6 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.


2015 Rhif 1591 (Cy. 191) (C. 92)

addysg, cymru

Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015

Gwnaed               16:55 pm ar     5 Awst 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 60(2) a (3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 6 Awst 2015

2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 i rym ar 6 Awst 2015—

(a)     adran 2(1) (sefydlu Cymwysterau Cymru);

(b)     adran 2(2) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 1 a pharagraff 37 o Atodlen 1;

(c)     Rhan 1 o Atodlen 1 (sefydlu Cymwysterau Cymru); a

(d)     paragraff 37 (yn Rhan 2) o Atodlen 1 (diwygiad canlyniadol i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000([2])).

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Awst 2015

 



([1])           2015 dccc 5.

([2])           2000 p. 36.